Ymgynghoriad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)
|
Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) |
Evidence submitted to the Children, Young People and Education Committee for Stage 1 scrutiny of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill |
|
CADRP-351 |
CADRP-351 |
Cyflwynwyd yr ymateb hwn yn Gymraeg.
Amdanoch Chi
Enw: Caren Brown
Rôl: Rheolydd Tîm o Amgylch y Teulu Gwynedd
- Ydw
Mae cosbi plant yn gorfforol yn gallu andwyo lles emosiynol yn ogystal â bod yn niweidiol yn gorfforol.#
Mae'n dysgu plant bod cosbi yn y modd yma'n dderbyniol.
Mae oedolion eisoes yn cael eu hamddiffyn rhag cosb corfforol. Dylid sicrhau bod plant hefyd yn cael eu hamddiffyn gan eu bod yn aelodau bregus o'n cymdeithas.
Mae'n bwysig cael deddfwriaeth i sicrhau diogelwch plant.
mae plant yn ffynnu mewn awyrgylch saff lle maent yn cael eu parchu.
helpu gweithwyr proffesiynol i roi negeseuon a chyngor eglur i rieni.
Amddiffyn hawliau dynol plant.
Yndw -mae tystiolaeth o wledydd eraill yn dangos hyn.
Mae cyfreithiau eraill yn cael eu cyflwyno yn aml e.e. ysmygu mewn mannau cyhoeddus. Bydd deddf i ddiddymu amddiffyniad cosb rhesymol yn sicrhau bod plant ddim yn cael eu cosbi yn gorfforol a fyddai yn y tymor hir yn gallu bod yn niweidiol iawn iddynt.
Nid yw'r gyfraith fel ag y mae yn diogelu plant bregus. Maent fel arfer yn cael cefnogaeth neu eu cyfeirio at wasanaethau plant / heddlu pan mae'r plentyn eisoes wedi eu taro. Byddai eglurder yn y gyfraith yn ceisio sicrhau nad ydynt yn cael eu taro yn y lle cyntaf.
Angen gwybodaeth glir i'r cyhoedd a phobl proffesiynol.
Angen am ddigon o ddeunyddiau a chefnogaeth am strategaethau a rhaglenni rhiantu cadarnhaol
hyfforddiant cenedlaethol digonol i staff rheng flaen sy'n gweithio efo teuluoedd.
-
Angen cael y neges allan i bawb gan gynnwys plant a theuluoedd sydd yn anodd eu cyrraedd.
Bydd deddf fel hyn yn hybu gwaith ataliol ac yn y pendraw yn atal cyfeiriadau mwy costus i wasanaethau cymdeithasol, yr heddlu ac eraill sy'n diogelu plant. Mae camdrin corfforol yn un o'r ACES sy'n cael ei gydnabod ac felly gall leihau'r nifer o blant sydd yn dioddef y trauma yma dros y blynyddoedd i ddod.
Dwi'n croesawy y bil yma ac yn gobeithio y bydd yn mynd o nerth.